Mae Clwb Golff Porth Llechog yn falch o fod wedi cael ei ddewis gan Golff Cymru i gynnal Pencampwriaeth Ieuenctid Agored Cymru 2024 24ain – 26ain Mai
Gyda diwrnod ymarfer ar 23ain Mai, dilynnir tri diwrnod o gystadleuaeth dwys gan chwaraewyr ifanc gorau Cymru, gwrywaidd ac benywaidd.
Mae 144 o leoedd ar gael ac mae archebu yn hanfodol (Handicap 6.0 neu lai). Cliciwch yma am fanylion archebu.
Credwn fod dewis Porth Llechog i gynnal y digwyddiad pwysig hwn yn dystiolaeth i’r gwelliannau y mae’r clwb wedi’u gwneud i’r cwrs a’r seilwaith dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r pwyllgor a’r aelodau yn edrych ymlaen at groesawu’r genhedlaeth nesaf o sêr golff i’r cwrs mwyaf gogleddol yng Nghymru.
