Clwb Golff Porth Llechog – Her deg ar hen dir
Cewch groeso cynnes yng Nghlwb Golff Porth Llechog – cwrs mwyaf gogleddol Cymru.
Mae’n anodd curo lleoliad hyfryd y cwrs 18 twll safon Pencampwriaeth hwn. Mae wedi’i leoli uwchlaw arfordir gwyllt hyfryd Môn Mam Cymru a phob twmpath (te) yn cynnig golygfeydd panoramig o’r ynys, o fynyddoedd Eryri, dros Fôr Iwerddon i Ynys Manaw a hyd yn oed at fryniau Ardal y Llynnoedd yn y pellter.
Mae’r cwrs, a gafodd ei ddylunio gan Herbert Fowler, yn dringo ac yn syrthio, yn igam-ogamu drwy ddyffrynnoedd a llwyfandiroedd, rhwng creigiau ac eithin – lleoliad anhygoel ar gyfer gêm fythgofiadwy o golff. Mae’r tir a’r hinsawdd fwyn yn cynnig cyfle i golffio drwy gydol y flwyddyn tra bod y clwb modern a’i gyfleusterau gwych yn cynnig croeso cynnes a gwerth gwych am arian.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Glwb Golff Porth Llechog.






