
Ymwelwyr
YMwelwyr
Ymwelwyr Golff
Mae Clwb Golff Porth Llechog yn barod i gynnig croeso cynnes i bawb sydd am ymweld:
Ydych chi awydd gêm fach dawel ar eich pen eich hun?
Ydych chi’n griw o bedwar sy’n chwilio am her ar gwrs gwahanol?
Neu ydych chi’n aelod o gymdeithas mwy o faint?
Dyma’r cwrs i chi. Galwch heibio!
Flynyddoedd yn ôl, roedd Porth Llechog yn gallu bod yn llecyn cymharol anodd i rai ymwelwyr ei gyrraedd. Ond y dyddiau hyn, diolch i’r ffyrdd newydd a llongau cyfleus o Iwerddon, mae’r cwrs yn barod i gynnig croeso cynnes i bobl o bob cwr o’r wlad a thu hwnt. Mae’r cwrs lai na dwy awr o Ogledd Lloegr, ac mae Iwerddon o fewn cyrraedd yn hawdd sy’n golygu bod golffio ar gwrs bendigedig Porth Llechog yn haws nag erioed.
Dyma gwrs golff mwyaf gogleddol Cymru ac mae’n cynnig cyfleusterau penigamp a gwerth gwirioneddol wych am arian. Pa un a fyddwch chi awydd gêm o golff i anghofio am y byd a’i bethau, gwyliau yn yr ardal hyfryd hon neu noson o orffwys ar y ffordd i Iwerddon, byddai werth i chi roi cynnig ar gwrs golff gogoneddus Porth Llechog wrth fynd heibio.
Oherwydd problem genedlaethol gyda system BRS ar hyn o bryd, pan fyddwch yn trefnu i chwarae mewn cystadleuaeth, rowndiwch eich handicap i rif llawn (dim rhifau degol / decimals) – diolch.
