A golfer with a white top finishes his follow through after driving on the 18th.

cystadleuaeth agored IEUENCTID GOLFF CYMRU, MAI 23-26, 2024

Roedd Clwb Golff Porth Llechog yn falch iawn o gael cynnal un o gystadlaethau Golff Cymru ddiwedd mis Mai 2024, gan groesawu rhyw gant o gystadleuwyr a’u teuluoedd i’r ardal hyfryd hon.

Dydd Iau 23 Mai oedd y diwrnod ymarfer – hyrddiodd Morys y Gwynt gydol y dydd ac felly penderfynodd nifer o’r golffwyr i adael eu clybiau yn y bag a cherdded y cwrs heb chwarae i ddod i’w adnabod. Roedd y tywydd yn well ddydd Gwener, roedd amodau dydd Sadwrn bron yn berffaith ac roedd dydd Sul yn gwbl gymysg. Ond roedd y goreuon yn fwy nag abl i ddelio â’r tywydd ansefydlog.

Gweithiodd ein haelodau a’n staff yn ddiflino yn ystod y dyddiau cyn y gystadleuaeth i sicrhau bod y cwrs, y maes parcio, y clwb a’r ardal ymarfer newydd sbon i gyd yn barod mewn pryd. Roedd dros hanner cant o staff a gwirfoddolwyr yn brysur am ddyddiau lawer yn yr ardal ymarfer, yn helpu gyda’r arlwyo, yn y bar, ac yn canfod peli ar nifer o dyllau.

Llongyfarchiadau mawr i’r enillydd, Sam Marshall, gyda thair rownd yn y 60au i gyrraedd y brig o 8 ergyd.

Yn y llun, dyma’r enillwyr:
Chwaraewr Gorau Cymru: Ryan Williams (Clwb Golff Bargoed)
Ail Safle: Samuel Johnson (CG Astbury)
Pencampwr: Sam Marshall (CG St Neots)
3ydd Safle: Scot Newman (Royal Troon)
Merch yn y Safle Gorau: Isabelle Badger (CG Enville).