
Y Clwb
Y Siop
Siop Clwb Golff Porth Llechog
Caiff Siop Golff Porth Llechog ar agor bob dydd o’r wythnos felly cysylltwch â nhw i drefnu gêm, i holi unrhyw gwestiynau sydd gennych chi, i brynu offer golffio neu i nôl diod neu rywbeth bach i’w fwyta.
Mae’r tîm yno i gynnig gwasanaeth gwrth chweil i’n cwsmeriaid ac yno fe gewch groeso cynnes a gwybodaeth ddefnyddiol am y cwrs a’r clwb. Yno hefyd, cewch brynu’r offer golffio diweddaraf a dillad hyd yn oed, gan gynnwys:
Nwyddau Clwb Golff Porth Llechog – Mae eitemau’n cynnwys peli golff, teclynnau i farcio peli, capiau a dillad i’ch atgoffa o’ch amser ym Mhorth Llechog.
Hanfodion golffio – Menig ac esgidiau Footjoy, y peli gorau, tywelion, capiau ar gyfer golffio ymhob tywydd a llawer iawn mwy!
Clybiau – Rydym ni’n gwerthu amrywiaeth eang o glybiau gan y brandiau mawr fel Ping. Gallwch roi cynnig ar glybiau ‘demo’ cyn prynu hyd yn oed.
Dillad – Rydyhm yn cadw dillad i ddynion a merched gan frandiau megis Under Armour, Footjoy, Ping a Glenmuir.
Dillad glaw – Gan Under Armour a Footjoy.
Offer i’w llogi – Mae modd llogi bygis a throlis. Gwell trefnu ymlaen llaw yn ystod misoedd prysur yr haf. Cynnal a chadw offer – gallwn gynnig gwasanaeth i drolis Powakaddy a’u trwsio yn ôl y galw. Gallwn hefyd roi shaffts a grips newydd ar eich clybiau.
Oriau Agor y Siop
| Yn ystod yr wythnos | 8.00am i 1.30pm |
| Dydd Sadwrn Dydd Sul | 7.30am i 3pm 8.00am i 3pm |
Rydym ni’n gwerthu cynnyrch:







Ffôn: 01407 830960 (dewis 2).