Bull Bay Golf Club History

Y Clwb

Hanes

Hanes Clwb Golff Porth Llechog

Fe dyfodd poblogrwydd golff ar ddechrau’r 20fed ganrif yn bennaf diolch i ffyniant y dosbarth canol ac fe ddaeth bod yn aelod o glwb golff felly’n arwydd o statws cymdeithasol.

Yn erbyn y cefndir hwn felly yr agorodd Cwrs Golff Porth Llechog yn swyddogol ddydd Sadwrn, 16 Awst 1913. Ardalydd Môn neu’r Marcwis fel yr oedd nifer yn ei alw oedd yn gyfrifol am osod y cwrs ac am godi adeilad y Clwb – ef oedd yn berchen ar y tir.  Wrth sefydlu cwrs ym Mhorth Llechog, roedd yr Ardalydd yn gobeithio datblygu’r ardal fel canolfan wyliau gan fod yna hefyd gyrtiau tenis a lawnt fowlio ar dir y Clwb yn barod. Herbert Fowler o Glwb Golff Walton Heath wnaeth ddylunio’r cwrs – roedd yr Ardalydd eisoes wedi ei gyflogi i ddylunio cwrs arall iddo ar dir yn Beau Desert yn Swydd Stafford. Fe wnaeth Fowler y mwyaf o’r tir a oedd yn codi ac yn disgyn fel tonnau gan fentro dylunio cwrs a oedd yn gofyn i’r golffwyr daro ergydion dall a phellteroedd maith. 

Herbert Fowler
Herbert Fowler

Cafodd dros fil o bobl eu denu i agoriad swyddogol y cwrs ac yn eu plith oedd dau o olffwyr adnabyddus yr oes sef JH Taylor a James Braid – y ddau wedi ennill cystadleuaeth yr Open ar bum achlysur. Cafodd cinio ei weini yn y Gwesty Brenhinol ym Mhorth Llechog ac yna, yn y prynhawn, fe wnaeth Taylor chwarae gyda T Simpson o Eastbourne mewn gêm yn erbyn Braid a W H Fowler, dylunydd y cwrs.

Gyda dyfodiad y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18), aeth y Clwb i anawsterau ariannol. Ar gyfartaledd, cyfanswm costau blynyddol rhedeg y Clwb oedd £500 ac roedd refeniw’r Clwb am flwyddyn yn £1,215 (gan gynnwys ffioedd aelodaeth a ffioedd ymwelwyr). Yn 1920, anfonwyd llythyr at yr aelodau yn nodi mai cyfrifoldeb pobl leol bellach fyddai datrys y sefyllfa er mwyn bodloni’r Ardalydd. Sefydlwyd pwyllgor o un ar ddeg o bobl i redeg y Clwb – chwech wedi’u dewis gan yr Ardalydd a phump gan yr aelodau. Roedd poblogrwydd y gêm yn cynyddu ac ym mis Chwefror 1922, penodwyd Mr a Mrs Lewis Williams i weithio fel golffiwr proffesiynol a stiward ar gyflog ar y cyd o £2 yr wythnos.

Marquis of Anglesey Bull Bay Golf
Ardalydd ac Ardalyddes Môn yn cyrraedd agoriad swyddogol y Cwb ym 1913.

Ym mis Hydref 1925, cytunodd y Clwb i dalu £4,000 i’r Ardalydd am y tir – fe wnaeth aelodau gynorthwyo gyda hyn drwy brynu dyledebau (debentures). Roedd sefyllfa ariannol y Clwb yn dal i beri pryder a chytunwyd y byddai’r holl safleoedd adeiladu a oedd ar gael ar dir y Clwb yn cael eu mapio allan a’u prisio er mwyn eu gwerthu. Roedd yna bryder cyffredinol am gyflwr y cwrs hefyd – y gred gyffredinol oedd nad oedd y staff a oedd yn gyfrifol am drin y tir yn gweithio’r oriau gofynnol. Cytunwyd bod gofyn cael gafael ar ‘rhywbeth mecanyddol’ ar gyfer y gwaith torri a rholio ar y cwrs – yn lle Prince, y ceffyl a oedd wedi gwasanaethu’r Clwb gystal ers sawl blwyddyn. Roedd dechrau’r Ail Ryfel Byd yn golygu nad oedd chwarae golff bellach yn parhau’n flaenoriaeth yn yr ardal. Defnyddiodd un o’r Gwarchodluoedd Cartref (Home Guard) y cwrs i ymarfer a chynhaliwyd sawl cystadleuaeth i godi arian ar gyfer ymdrechion y Rhyfel.

Ar ddiwedd y Rhyfel, ailgydiodd pobl leol yn y gamp ac ym 1948, roedd gan y Clwb 156 o aelodau (105 o ddynion a 51 o ferched). Fe wnaeth poblogrwydd y gamp gynyddu’n raddol a chytunwyd bod gofyn sefydlu adran ieuenctid. Ym 1949, 4 gini oedd y ffi aelodaeth i ddynion (£4.40 heddiw) a 3 gini i ferched (£3.30). Roedd poblogrwydd cystadlaethau’n cynyddu ac ym 1949, penododd y Clwb WB Jones fel yr Ysgrifennydd Cystadlaethau cyntaf. Parhaodd Mr Lloyd Thomas a oedd wedi cefnogi’r Clwb yn ariannol yn ystod yr Ail Ryfel Byd i wneud hynny hyd ei farwolaeth ym 1954. Roedd yna bryder mawr ynghylch cyflwr adeilad y Clwb ac roedd y sefyllfa ariannol gyffredinol yn parhau’n ansefydlog – sefydlwyd cyfrif i wella’r adeiladau. Parhaodd y trafodaethau ar ddechrau’r 1960’au ynghylch adeilad y Clwb ac ym mis Chwefror 1962, lluniwyd cynlluniau ar gyfer codi adeilad newydd ar gyfer y Clwb. Ariannwyd y prosiect yn bennaf drwy werthu deuddeg llain o dir adeiladu am £5,000 lle mae ystâd dai Ponciau Peli (The Links) heddiw – roedd gwerthu’r tir hwn yn golygu bod rhaid ailgynllunio’r rhan hon o’r cwrs.

News golfing North Wales
O Golf illustrated 1913

Gyda sefydlu Gorsaf Bŵer Wylfa, tyfodd yr aelodaeth a daeth grŵp newydd o aelodau, aelodaeth yr Wylfa, i’r fei. Yn naturiol, arweiniodd y cynnydd yn nifer yr aelodau at fwy o olffio cystadleuol ac ymddangosodd sawl tlws newydd. Roedd yr adran iau yn ffynnu hefyd, ac fe gafodd sawl llanc gydnabyddiaeth ar lefel ranbarthol a chenedlaethol gan gynnwys Bob Wrench. Yn rhyfeddol ddigon, aeth Bob ymlaen i lwyddo mewn cystadlaethau codi pwysau yng Ngemau’r Gymanwlad yn Seland Newydd ym 1972.  Etholwyd John Robert Jones yn Gapten Iau cyntaf y Clwb.

Yn gynnar yn y 1970’au, cysylltodd cwmni’r Shell Oil Co. â’r Clwb ynghylch gosod pibell olew o fwi olew ar y môr i fferm danciau yn Rhosgoch. Ym 1974, cychwynnodd gwaith i osod y bibell a oedd yn golygu gosod cyfyngiadau ar chwarae mewn ambell ran o’r Cwrs ac ail-ddylunio rhannau o dyllau 11, 12 a 13. Fe wnaeth y Clwb elwa’n ariannol o’r gwaith – gwerth £20,000. Roedd canol y 1970’au yn gyfnod cyffrous i’r Clwb ac ym mis Hydref 1977, roedd yna 705 o aelodau. Roedd y Clwb yn rhagori mewn cystadlaethau rhwng clybiau ar yr ynys gan ennill tarian Dr Lowe a tharian Rawlinson ar sawl achlysur ac ymhellach i ffwrdd hefyd gan lwyddo mewn cystadlaethau yn erbyn clybiau Sir Gaernarfon a’r Cylch.

Ym 1979, cynhaliodd y Clwb ei gystadleuaeth boblogaidd Pro-Am gyntaf. Cafodd y Clwb gydnabyddiaeth ryngwladol ym mis Gorffennaf 1987 pan gynhaliodd bencampwriaeth ryngwladol ysgolion Ewrop. Daeth cydnabyddiaeth bellach i’r Clwb wrth iddo gynnal Pencampwriaeth Bechgyn Cymru a’r Bencampwriaeth rhyng-sirol genedlaethol. Roedd cyflwr adeilad y Clwb yn dirywio felly ym mis Tachwedd 1992, cytunwyd y dylid codi adeilad newydd ac fe’i agorwyd ym mis Mawrth 1994.

Dadorchuddio carreg sylfaen y Clwb newydd ym 1994.


Mae sawl aelod o’r Clwb wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol: Aled Llŷr ac Emyr Jones wedi cynrychioli tîm y dynion a Jane Rogers, Helen Lawson a Sue Turner wedi cynrychioli’r merched. Dathlodd y Clwb ei Ganmlwyddiant yn 2013 a denodd amrywiol ddigwyddiadau aelodau ac ymwelwyr o bell ac agos i ddathlu’r garreg filltir nodedig yn hanes y Clwb.

Bull Bay Golf Book
Llyfr Clwb Golff Porth Llechog
“Bull Bay Golf Club 1913 – 2013 The First Hundred Years”


Mae copïau o lyfr, “Bull Bay Golf Club 1913 – 2013 The First Hundred Years” ar werth yn siop a swyddfa’r Clwb.