Bull Bay 18 hole Golf Course

Y Clwb

Y Cwrs

Y Cwrs

Prin yw’r cyrsiau golff sydd wedi’u lleoli ar ddarn mor fendigedig o dir â Chlwb Golff Porth Llechog. Mae’n gwrs 18 twll safon Pencampwriaeth sy’n gyfuniad perffaith o’r traddodiadol a’r newydd gyda rhodfeydd (fairways) braf a lawntiau (greens) bendigedig.

Cafodd y cwrs ei ddylunio gan un o’r goreuon – William Herbert Fowler ac fe’i agorwyd yn swyddogol ym mis Awst 1913. Fe wnaeth Fowler y gorau o’r tirlun naturiol sy’n codi ac yn syrthio fel tonnau. Mae’r cwrs yn herio golffwyr i chwarae tyllau dall ac yn eu gorfodi i daro’r bêl gryn bellter o bryd i’w gilydd. Unwaith y byddwch chi wedi golffio ym Mhorth Llechog, rydych chi’n siŵr o ddychwelyd. Cliciwch isod i weld y 18 twll…

Twll 1 – Môr a Manaw

Wrth i chi baratoi i daro’r ergyd gyntaf un, peidiwch â gadael i’r golygfeydd hyfryd na phresenoldeb golffwyr eraill sy’n hel eu traed o gwmpas y clwb dynnu eich sylw. Ar y dde, fe welwch gae ar ochr draw’r wal gerrig. Mae’r cae allan ohoni’n llwyr (out of bounds). Hyd yn oed os byddwch chi’n taro’r ddreif berffaith, mae gofyn i’r ergyd nesaf fod yn un arbennig er mwyn cyrraedd y lawnt sydd 20 llath yn uwch na’r rhodfa (fairway). Mae’n bwysig i’r dynion daro ail ergyd ofalus er mwyn rhoi’r bêl yn y twll am bar 4. Mae gan y merched ergyd ychwanegol ar y twll hwn – mae’n bar 5 iddyn nhw. Mae gofyn meddwl yn ofalus cyn mynd am y lawnt. Pwy sydd eisiau dechrau ei rownd un ergyd yn waeth na’r safon?!

• 370 Llath | Par 4 | SI-9
363 Llath | Par 4 | SI-9
353 Llath | Par 5 | SI-17

Twll 2 – Clawdd Terfyn

Byddai dreif berffaith yn mynd â’r bêl i ochr dde’r rhodfa (fairway) er mwyn osgoi’r bryncyn sydd yn y canol. Ond, byddwch yn ofalus gan fod y cae sydd i’r dde o’r wal gerrig eto allan ohoni (out of bounds). Gyda hyn, byddwch yn gallu gweld y twll yn glir yn y pellter ar lawnt hir sydd wedi’i hamddiffyn gan dwmpathau a byncer sych.

• 392 Llath| Par 4 | SI-3
382 Llath | Par 4 | SI-3
290 Llath | Par 4 | SI-7

Twll 3 – Lle Mynno’r Gwynt

Mae hwn yn dwll heriol o’r twmpath (tee) cefn yn enwedig os byddwch yn taro’r bêl i mewn i’r gwynt. Rhaid taro dros ddyffryn bach tuag at lawnt siâp powlen. Bydd bod yn fanwl gywir wrth ddewis pa glwb i’w ddefnyddio yn talu ar ei ganfed ar y twll hwn. Mae’n well bod y bêl yn glanio’n rhy fyr nag yn rhy hir. O fod yn hir, bydd eithin James Braid yn aros amdanoch chi.

• 220 Llath | Par 3 | SI-11
180 Llath | Par 3 | SI-11
172 Llath | Par 3 | SI-5

Twll 4 – Llechog

Mae’r twmpath (tee) gwyn a melyn yn uchel eto ar y twll hwn gyda’r rhodfa (fairway) yn ymestyn oddi tanoch gyda golygfeydd o Eryri yn y pellter. Agorwch eich ysgwyddau a rhowch homar o beltan i’r bêl! Bydd dreif dda yn glanio ar ganol y rhodfa.

Mae’r twmpath coch ar waelod llwybr bach troellog ar ochr dde’r rhodfa.

Yr her yw cyrraedd y lawnt sydd ar lefel uwch. Y gobaith yw gweld y bêl yn cyrraedd y lawnt ac yn aros yno heb fynd i orwedd mewn byncer neu lithro’n ôl tuag atoch i lawr y llethr serth.

• 383 Llath | Par 4 | SI-7
383 Llath | Par 4 | SI-7
291 Llath | Par 5 | SI-11

Twll 5 – Eilian

Dyma dwll cyffrous! Ewch ati i danio’r bêl tuag at ochr dde’r lawnt. Os byddwch yn llwyddo i osgoi’r twmpath sy’n amddiffyn blaen y lawnt, fe all eich pêl redeg i lawr yn agos at y twll: mae’r lawnt yn gwyro o’r blaen i’r cefn. O gael ergyd gyntaf dda, mae yna obaith gwirioneddol am bluen (birdie).

• 175 Llath | Par 3 | SI-13
172 Llath | Par 3 | SI-13
169 Llath | Par 3 | SI-13

Twll 6 – Llam Y Carw

Dyma dwll par 4 byr ar dair lefel. Bydd dreif dda dros y dyffryn i’r ail lefel yn gadael ail ergyd ddall. O’r fan honno, bydd raid i chi godi’r bêl dros fryncyn bach er mwyn cyrraedd y lawnt. Ond mae tywod dwfn yn ei amddiffyn. Byddai werth i chi gerdded yn eich blaen i edrych ar y lawnt cyn taro’r bêl er mwyn gweld ble’n union mae’r twll gyda’r nod o fynd am bluen (birdie).

• 310 Llath | Par 4 | SI-17
290 Llath | Par 4 | SI-17
287 Llath | Par 5 | SI-5

Twll 7 – Mynydd Parys

Mae hwn yn par 4 i’r dynion ac yn par 5 i’r merched. Dyma felly dwll anoddaf y cwrs yn ôl y ‘stroke index’ oddi ar y twmpathau melyn a gwyn. O gofio hynny, byddai sgorio par yn hen ddigon da. Byddwch yn ceisio dreifio am y postyn du a gwyn dros ddibyn tuag at y rhodfa (fairway) oddi tanodd. Yna, rhaid taro’r bêl i fyny allt fechan, heibio hen adeilad carreg tuag at y lawnt. Byddwch yn ofalus o’r tywod ar y chwith a’r llethrau o amgylch y lawnt. Mae gofyn meddwl yn iawn cyn taro’r ergyd gyntaf ar y twll hwn. Bydd golffwyr gofalus a’r rhai nad ydynt yn gallu taro’n rhy bell yn dewis peidio â mynd amdani gyda’r ergyd gyntaf gan daro pêl ddiogel at y postyn. Gofal piau hi wrth ddewis eich clwb cyntaf o’r bag ar y twll hwn.

• 426 Llath | Par 4 | SI-1
423 Llath | Par 4 | SI-1
420 Llath | Par 5 | SI-3

Twll 8 – Y Garreg Fawr

Mae hwn yn dwll par 4 oddi ar y twmpath coch a par 5 oddi ar y twmpath melyn a gwyn. Byddwch yn taro dreif i lawr rhodfa (fairway) sy’n llithro i lawr ond gyda’r lawnt yn uchel fry yn y pellter. Wrth ddreifio, cadwch i’r chwith – gallai sleis olygu bod rhaid i chi fynd yn ôl i ddechrau eto. Os ydych chi’n gallu taro’n bell, byddai clamp o ddreif yn golygu bod modd mynd am y lawnt uchel gyda’r ail ergyd. Fel arall, bydd gofyn chwarae’n fyr o’r byncer dwfn cyn mynd am y twll. Mae’r lawnt yn llithro’n serth o’r cefn i’r blaen.

• 475 Llath | Par 5 | SI-15
461 Llath | Par 5 | SI-15
325 Llath | Par 4 | SI-9

Twll 9 – Dyffryn

Dyma’r twll anoddaf ar y cwrs oddi ar y twmpath coch yn ôl y stroke index. Dyma dwll na fyddwch chi’n ei anghofio fyth! Byddwch yn dreifio tuag at ddyffryn dwfn sy’n torri ar draws y rhodfa (fairway) o’r chwith i’r dde. Wedyn, er mwyn cyrraedd y twll, rhaid taro’r bêl i lefel uwch. Mae’r lawnt yn hir ac yn llithro’n serth o’r cefn i’r blaen. Mae pytio i fyny’r lawnt yn haws o lawer nag am i lawr! Gwell osgoi hynny os gallwch chi.

• 347 Llath | Par 4 | SI-5
340 Llath | Par 4 | SI-5
340 Llath | Par 4 | SI-1

Twll 10 – Pant

Mae hwn yn dwll byr hyfryd. Unwaith eto, mae’r twmpath (tee) yn uwch o lawer na’r twll a’r lawnt yn un dwy haen Mackenzie traddodiadol. Ond mae yna ddigon o rwystrau o’i blaen. Mae yna ddigon o le ar yr haen isaf i chi anelu ato ac mae’n bosibl iawn cael pluen (birdie) os mai dyna ble fydd y bin. Ond, os byddwch yn taro oddi ar y twmpath (tee) gwyn tuag at y twll a hwnnw ar yr haen uchaf, digon hawdd sgorio un yn waeth na’r safon (bogey) neu’n waeth byth!

• 195 Llath | Par 3 | SI-10
158 Llath | Par 3 | SI-10
122 Llath | Par 3 | SI-16

Twll 11 – Nebo

Mae hwn yn dipyn o dwll! Os ydych chi’n gallu taro’r bêl yn bell, efallai y cewch eich hudo i fynd am y lawnt mewn dwy er mwyn paratoi am bluen (birdie). Gall risg fel hyn dalu ar ei ganfed ond os na fydd pethau’n mynd yn iawn, chwalfa! Mae’r rhodfa lydan yn culhau wedi 250 llath cyn rowlio dros fryncyn arall cyn cyrraedd dyffryn o flaen y lawnt. Mae’r lawnt ar lefel uwch ac yn llawn tonnau bach anwastad.

• 505 Llath | Par 5 | SI-6
485 Llath | Par 5 | SI-6
383 Llath | Par 5 | SI-8

Twll 12 – Bryn Teg

Mae hwn yn dwll braf a chysgodol yn rhan isaf y cwrs. Bydd golffwyr dewr yn ergydio i’r dde am yr eithin sydd fel wal uchel. Byddai gwneud hyn yn caniatáu am y ffaith bod y rhodfa (fairway) a’r lawnt yn llithro’n gymharol serth o’r dde i’r chwith. Mae’r tywod ar y chwith yn barod i ddal peli golffwyr llai dewr.

• 197 Llath | Par 3 | SI-14
172 Llath | Par 3 | SI-14
162 Llath | Par 3 | SI-14

Twll 13 – Cae Syr Rhys

Twll ar siâp coes ci o’r dde i’r chwith yw hwn. Mae’n dringo rhywfaint tuag at lawnt dwy lefel sy’n cael ei hamddiffyn gan dwmpathau glaswellt a thywod. Os ydych chi am chwarae’n saff, gwell tanio i gornel y goes ci cyn chwarae ail ergyd ddall. Ond y pellaf aiff yr ergyd gyntaf, hawsaf yn y byd fydd yr ail ergyd wrth i chi allu gweld mwy o’r lawnt gan roi cyfle i chi ymosod a pharatoi am y bluen (birdie).

• 317 Llath | Par 4 | SI-16
310 Llath | Par 4 | SI-16
305 Llath | Par 4 | SI-4

Twll 14 – Parciau Hills

Mae hwn yn dwll siâp coes ci o’r dde i’r chwith. Mae’n llithro i lawr ac yna i fyny eto tuag at lawnt sy’n codi ac yn disgyn fel tonnau bach sy’n anodd eu gweld. Dyma dwll clasurol sy’n rhoi cyfle i chi ddewis sut i reoli’r cwrs. O herio’r goes ci, byddai clamp o ddreif yn gadael ergyd fer tuag at y lawnt. O chwarae’n ddiogel i lawr i’r dyffryn, bydd gofyn i chi daro haearn canolig neu fwy i fyny’r allt.

• 425 Llath | Par 4 | SI-4
386 Llath | Par 4 | SI-4
321 Llath | Par 4 | SI-10

Twll 15 – Cae’r Ffynnon

Byddai werth i chi oedi am eiliad ar y twmpath (tee) hwn i fwynhau’r golygfeydd bendigedig. Fe welwch y twll yn ymestyn yn igam-ogam oddi tanoch tuag at lawnt uchel yn y pellter. Bydd dreif dda yn aros ar ochr chwith y rhodfa gan fod y cae sydd y tu hwnt i’r wal gerrig ar yr ochr dde allan ohoni (out of bounds). Byddwch yn ofalus! Yna, tarwch y bêl am ail lefel y rhodfa (fairway) ble byddwch yn gallu gweld y lawnt sy’n llithro o’r cefn i’r blaen.

• 486 Llath | Par 5 | SI-12
481 Llath | Par 5 | SI-12
405 Llath | Par 5 | SI-6

Twll 16 – Yr Ynys

Dyma enghraifft arall o glyfrwch Herbert Fowler wrth iddo greu twll byr sy’n eich gwobrwyo am fod yn fanwl gywir yn hytrach nag yn hir. Wedi dweud hynny, peidiwch â bod yn fyr gan y gallai’r llethr sydd ar flaen y lawnt wthio eich pêl i’r dyffryn sy’n amddiffyn y twll. O daro dreif i’r chwith o’r llethr, fe ddylai’r bêl redeg ar y lawnt anwastad.

• 174 Llath | Par 3 | SI-18
169 Llath | Par 3 | SI-18
149 Llath | Par 3 | SI-12

Twll 17 – Machlud

Mae hwn yn dwll par 4 oddi ar y twmpathau gwyn a melyn ac yn par 5 oddi ar y coch. Mae’r twll yn plygu ar siâp coes ci ddwy waith… oni bai eich bod yn ddigon o olffiwr i daro dros y cyfan! Mae’r ddreif yn un anodd hyd yn oed i’r golffwyr proffesiynol – mae eithin yn amddiffyn ochr dde’r rhodfa (fairway) ac yn aml iawn, bydd y gwynt yn gwthio peli i’r cyfeiriad hwnnw. Y dewis arall yw chwarae’n saff a dilyn y rhodfa. Ar ochr chwith y lawnt, fe ddewch o hyd i un o fynceri sych gwreiddiol Fowler.

• 433 Llath | Par 4 | SI-2
425 Llath | Par 4 | SI-2
420 Llath | Par 5 | SI-2

Twll 18 – Teg Edrych

Dyma dwll bendigedig yn goron ar eich rownd ym Mhorth Llechog! Mae’r golygfeydd hyfryd o’ch cwmpas i bob cyfeiriad werth eu gweld. Mae’r rhodfa (fairway) yn llithro i lawr yn araf tuag at y lawnt yn y pellter, yn y lleoliad perffaith, o dan falconi’r clwb. Wrth i’r haul fachlud dros Fôr Iwerddon, byddwch yn clywed clebran golffwyr a thincial gwydrau ar y balconi ger y lawnt. Peidiwch â gadael i hyn oll dynnu eich sylw wrth i chi geisio pytio’r bêl i’r twll olaf un cyn troi am y bar.

Cofiwch fod hwn yn dwll par 4 oddi ar y twmpathau melyn a gwyn tra’n par 5 oddi ar y coch. Dyma felly’r twll hawsaf oddi ar y cochion yn ôl y stroke index.

• 446 Llath | Par 4 | SI-8
411 Llath | Par 4 | SI-8
385 Llath | Par 5 | SI-18